Meddai yntau wrthynt, “A ydych chwithau hefyd yr un mor ddiddeall? Oni welwch na all dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan ei halogi, oherwydd nid yw'n mynd i'w galon ond i'w gylla, ac yna y mae'n mynd allan i'r geudy?” Felly y cyhoeddodd ef yr holl fwydydd yn lân. Ac meddai, “Yr hyn sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi. Oherwydd o'r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd; o'r tu mewn y mae'r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun.”
Darllen Marc 7
Gwranda ar Marc 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 7:18-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos