Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a'u dysgu. A dywedodd wrthynt, “Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn.” Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta. Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o'r neilltu. Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen. Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt. Pan oedd hi eisoes wedi mynd yn hwyr ar y dydd daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.” Atebodd yntau hwy, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent wrtho, “A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a'i roi iddynt i'w fwyta?” Meddai yntau wrthynt, “Pa sawl torth sydd gennych? Ewch i edrych.” Ac wedi cael gwybod dywedasant, “Pump, a dau bysgodyn.” Gorchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn gwmnïoedd ar y glaswellt. Ac eisteddasant yn rhesi, bob yn gant a hanner cant. Yna cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y bobl; rhannodd hefyd y ddau bysgodyn rhwng pawb. Bwytasant oll a chael digon. A chodasant ddeuddeg basgedaid o dameidiau bara, a pheth o'r pysgod. Ac yr oedd y rhai oedd wedi bwyta'r torthau yn bum mil o wŷr.
Yna'n ddi-oed gwnaeth i'w ddisgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, i Bethsaida, tra byddai ef yn gollwng y dyrfa. Ac wedi canu'n iach iddynt aeth ymaith i'r mynydd i weddïo. Pan aeth hi'n hwyr yr oedd y cwch ar ganol y môr, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. A gwelodd hwy mewn helbul wrth rwyfo, oherwydd yr oedd y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Yr oedd am fynd heibio iddynt; ond pan welsant ef yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant, oherwydd gwelodd pawb ef, a dychrynwyd hwy. Siaradodd yntau â hwy ar unwaith a dweud wrthynt, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.” Dringodd i'r cwch atynt, a gostegodd y gwynt. Yr oedd eu syndod yn fawr dros ben, oblegid nid oeddent wedi deall ynglŷn â'r torthau; yr oedd eu meddwl wedi caledu.