Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 6:12-56

Marc 6:12-56 BCND

Felly aethant allan a phregethu ar i bobl edifarhau, ac yr oeddent yn bwrw allan gythreuliaid lawer, ac yn eneinio llawer o gleifion ag olew ac yn eu hiacháu. Clywodd y Brenin Herod am hyn, oherwydd yr oedd enw Iesu wedi dod yn hysbys. Yr oedd pobl yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef.” Yr oedd eraill yn dweud, “Elias ydyw”; ac eraill wedyn, “Proffwyd yw, fel un o'r proffwydi gynt.” Ond pan glywodd Herod, dywedodd, “Ioan, yr un y torrais i ei ben, sydd wedi ei gyfodi.” Oherwydd yr oedd Herod wedi anfon a dal Ioan, a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am ei fod wedi ei phriodi. Yr oedd Ioan wedi dweud wrth Herod, “Nid yw'n gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd.” Ac yr oedd Herodias yn dal dig wrtho ac yn dymuno ei ladd, ond ni allai, oherwydd yr oedd ar Herod ofn Ioan, am ei fod yn gwybod mai gŵr cyfiawn a sanctaidd ydoedd. Yr oedd yn ei gadw dan warchodaeth; a byddai'n gwrando arno'n llawen, er ei fod, ar ôl gwrando, mewn penbleth fawr. Daeth cyfle un diwrnod, pan wnaeth Herod wledd ar ei ben-blwydd i'w bendefigion a'i gadfridogion a gwŷr blaenllaw Galilea. Daeth merch Herodias i mewn, a dawnsio a phlesio Herod a'i westeion. Dywedodd y brenin wrth yr eneth, “Gofyn imi am y peth a fynni, ac fe'i rhof iti.” A gwnaeth lw difrifol iddi, “Beth bynnag a ofynni gennyf, rhof ef iti, hyd at hanner fy nheyrnas.” Aeth allan a dywedodd wrth ei mam, “Am beth y caf ofyn?” Dywedodd hithau, “Pen Ioan Fedyddiwr.” A brysiodd yr eneth ar unwaith i mewn at y brenin a gofyn, “Yr wyf am iti roi imi, y munud yma, ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl.” Aeth y brenin yn drist iawn, ond oherwydd ei lw, ac oherwydd y gwesteion, penderfynodd beidio â thorri ei air iddi. Ac yna anfonodd y brenin ddienyddiwr a gorchymyn iddo ddod â phen Ioan. Fe aeth hwnnw, a thorrodd ei ben ef yn y carchar, a dod ag ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth; a rhoddodd yr eneth ef i'w mam. A phan glywodd ei ddisgyblion, daethant, a mynd â'i gorff ymaith a'i ddodi mewn bedd. Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a'u dysgu. A dywedodd wrthynt, “Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn.” Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta. Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o'r neilltu. Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen. Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt. Pan oedd hi eisoes wedi mynd yn hwyr ar y dydd daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.” Atebodd yntau hwy, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent wrtho, “A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a'i roi iddynt i'w fwyta?” Meddai yntau wrthynt, “Pa sawl torth sydd gennych? Ewch i edrych.” Ac wedi cael gwybod dywedasant, “Pump, a dau bysgodyn.” Gorchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn gwmnïoedd ar y glaswellt. Ac eisteddasant yn rhesi, bob yn gant a hanner cant. Yna cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y bobl; rhannodd hefyd y ddau bysgodyn rhwng pawb. Bwytasant oll a chael digon. A chodasant ddeuddeg basgedaid o dameidiau bara, a pheth o'r pysgod. Ac yr oedd y rhai oedd wedi bwyta'r torthau yn bum mil o wŷr. Yna'n ddi-oed gwnaeth i'w ddisgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, i Bethsaida, tra byddai ef yn gollwng y dyrfa. Ac wedi canu'n iach iddynt aeth ymaith i'r mynydd i weddïo. Pan aeth hi'n hwyr yr oedd y cwch ar ganol y môr, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. A gwelodd hwy mewn helbul wrth rwyfo, oherwydd yr oedd y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Yr oedd am fynd heibio iddynt; ond pan welsant ef yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant, oherwydd gwelodd pawb ef, a dychrynwyd hwy. Siaradodd yntau â hwy ar unwaith a dweud wrthynt, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.” Dringodd i'r cwch atynt, a gostegodd y gwynt. Yr oedd eu syndod yn fawr dros ben, oblegid nid oeddent wedi deall ynglŷn â'r torthau; yr oedd eu meddwl wedi caledu. Wedi croesi at y tir daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. Pan ddaethant allan o'r cwch, adnabu'r bobl ef ar unwaith, a dyma redeg o amgylch yr holl fro honno a dechrau cludo'r cleifion ar fatresi i ble bynnag y clywent ei fod ef. A phle bynnag y byddai'n mynd, i bentrefi neu i drefi neu i'r wlad, yr oeddent yn gosod y rhai oedd yn wael yn y marchnadleoedd, ac yn erfyn arno am iddynt gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei fantell. A phawb a gyffyrddodd ag ef, iachawyd hwy.