Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 6:1-29

Marc 6:1-29 BCND

Aeth oddi yno a daeth i fro ei febyd, a'i ddisgyblion yn ei ganlyn. A phan ddaeth y Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Yr oedd llawer yn synnu wrth wrando, ac meddent, “O ble y cafodd hwn y pethau hyn? A beth yw'r ddoethineb a roed i hwn, a'r fath weithredoedd nerthol sy'n cael eu gwneud trwyddo ef? Onid hwn yw'r saer, mab Mair a brawd Iago a Joses a Jwdas a Simon? Ac onid yw ei chwiorydd yma gyda ni?” Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Meddai Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac ymhlith ei geraint ac yn ei gartref.” Ac ni allai wneud unrhyw wyrth yno, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion a'u hiacháu. Rhyfeddodd at eu hanghrediniaeth. Yr oedd yn mynd o amgylch y pentrefi dan ddysgu. A galwodd y Deuddeg ato a dechrau eu hanfon allan bob yn ddau. Rhoddodd iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, a gorchmynnodd iddynt beidio â chymryd dim ar gyfer y daith ond ffon yn unig; dim bara, dim cod, dim pres yn eu gwregys; sandalau am eu traed, ond heb wisgo ail grys. Ac meddai wrthynt, “Lle bynnag yr ewch i mewn i dŷ, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal. Ac os bydd unrhyw le yn gwrthod eich derbyn, a phobl yn gwrthod gwrando arnoch, ewch allan oddi yno ac ysgydwch ymaith y llwch fydd dan eich traed, yn rhybudd iddynt.” Felly aethant allan a phregethu ar i bobl edifarhau, ac yr oeddent yn bwrw allan gythreuliaid lawer, ac yn eneinio llawer o gleifion ag olew ac yn eu hiacháu. Clywodd y Brenin Herod am hyn, oherwydd yr oedd enw Iesu wedi dod yn hysbys. Yr oedd pobl yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef.” Yr oedd eraill yn dweud, “Elias ydyw”; ac eraill wedyn, “Proffwyd yw, fel un o'r proffwydi gynt.” Ond pan glywodd Herod, dywedodd, “Ioan, yr un y torrais i ei ben, sydd wedi ei gyfodi.” Oherwydd yr oedd Herod wedi anfon a dal Ioan, a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am ei fod wedi ei phriodi. Yr oedd Ioan wedi dweud wrth Herod, “Nid yw'n gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd.” Ac yr oedd Herodias yn dal dig wrtho ac yn dymuno ei ladd, ond ni allai, oherwydd yr oedd ar Herod ofn Ioan, am ei fod yn gwybod mai gŵr cyfiawn a sanctaidd ydoedd. Yr oedd yn ei gadw dan warchodaeth; a byddai'n gwrando arno'n llawen, er ei fod, ar ôl gwrando, mewn penbleth fawr. Daeth cyfle un diwrnod, pan wnaeth Herod wledd ar ei ben-blwydd i'w bendefigion a'i gadfridogion a gwŷr blaenllaw Galilea. Daeth merch Herodias i mewn, a dawnsio a phlesio Herod a'i westeion. Dywedodd y brenin wrth yr eneth, “Gofyn imi am y peth a fynni, ac fe'i rhof iti.” A gwnaeth lw difrifol iddi, “Beth bynnag a ofynni gennyf, rhof ef iti, hyd at hanner fy nheyrnas.” Aeth allan a dywedodd wrth ei mam, “Am beth y caf ofyn?” Dywedodd hithau, “Pen Ioan Fedyddiwr.” A brysiodd yr eneth ar unwaith i mewn at y brenin a gofyn, “Yr wyf am iti roi imi, y munud yma, ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl.” Aeth y brenin yn drist iawn, ond oherwydd ei lw, ac oherwydd y gwesteion, penderfynodd beidio â thorri ei air iddi. Ac yna anfonodd y brenin ddienyddiwr a gorchymyn iddo ddod â phen Ioan. Fe aeth hwnnw, a thorrodd ei ben ef yn y carchar, a dod ag ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth; a rhoddodd yr eneth ef i'w mam. A phan glywodd ei ddisgyblion, daethant, a mynd â'i gorff ymaith a'i ddodi mewn bedd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd