A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, “Y mae Beelsebwl ynddo”, a, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.” Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion: “Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll. Ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tŷ hwnnw sefyll. Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno. Eithr ni all neb fynd i mewn i dŷ'r un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf; wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, maddeuir popeth i blant y ddaear, eu pechodau a'u cableddau, beth bynnag fyddant; ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant byth; y mae'n euog o bechod tragwyddol.” Dywedodd hyn oherwydd iddynt ddweud, “Y mae ysbryd aflan ynddo.” A daeth ei fam ef a'i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i'w alw. Yr oedd tyrfa'n eistedd o'i amgylch, ac meddent wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr a'th chwiorydd y tu allan yn dy geisio.” Atebodd hwy, “Pwy yw fy mam i a'm brodyr?” A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o'i gwmpas, dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i. Pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”
Darllen Marc 3
Gwranda ar Marc 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 3:22-35
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos