Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 15:1-21

Marc 15:1-21 BCND

Cyn gynted ag y daeth hi'n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid â'r henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat. Holodd Pilat ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau ef: “Ti sy'n dweud hynny.” Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn. Holodd Pilat ef wedyn: “Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn.” Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat. Ar yr ŵyl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano. Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel. Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn ôl ei arfer iddynt. Atebodd Pilat hwy: “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?” Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef. Ond cyffrôdd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt. Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?” Gwaeddasant hwythau yn ôl, “Croeshoelia ef.” Meddai Pilat wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelia ef.” A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio. Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai. A gwisgasant ef â phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben. A dechreusant ei gyfarch: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” Curasant ei ben â gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio. Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.