Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 14:43-65

Marc 14:43-65 BCND

Ac yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn cyrraedd, a chydag ef dyrfa yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid. Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel.” Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, “Rabbi,” a chusanodd ef. Rhoesant hwythau eu dwylo arno a'i ddal. Tynnodd rhywun o blith y rhai oedd yn sefyll gerllaw gleddyf, a thrawodd was yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd. A dywedodd Iesu wrthynt, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn gyda chwi beunydd, yn dysgu yn y deml, ac ni ddaliasoch fi. Ond cyflawner yr Ysgrythurau.” A gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi. Ac yr oedd rhyw lanc yn ei ganlyn ef, yn gwisgo darn o liain dros ei gorff noeth. Cydiasant ynddo ef, ond dihangodd, gan adael y lliain a ffoi'n noeth. Aethant â Iesu ymaith at yr archoffeiriad, a daeth y prif offeiriaid oll a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion ynghyd. Canlynodd Pedr ef o hirbell, bob cam i mewn i gyntedd yr archoffeiriad, ac yr oedd yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, yn ymdwymo wrth y tân. Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio tystiolaeth yn erbyn Iesu, i'w roi i farwolaeth, ond yn methu cael dim. Oherwydd yr oedd llawer yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, ond nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. Cododd rhai a chamdystio yn ei erbyn, “Clywsom ni ef yn dweud, ‘Mi fwriaf i lawr y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall heb fod o waith llaw.’ ” Ond hyd yn oed felly nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed yn y canol, a holodd Iesu: “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?” Parhaodd yntau'n fud, heb ateb dim. Holodd yr archoffeiriad ef drachefn, ac meddai wrtho, “Ai ti yw'r Meseia, Mab y Bendigedig?” Dywedodd Iesu, “Myfi yw, “ ‘ac fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod gyda chymylau'r nef.’ ” Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Pa raid i ni wrth dystion bellach? Clywsoch ei gabledd; sut y barnwch chwi?” A'u dedfryd gytûn arno oedd ei fod yn haeddu marwolaeth. A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio a dweud wrtho, “Proffwyda.” Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno â dyrnodiau.