“Ond pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’ yn sefyll lle na ddylai fod” (dealled y darllenydd) “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Pwy bynnag sydd ar ben y tŷ, peidied â dod i lawr i fynd i mewn i gipio dim o'i dŷ; a phwy bynnag sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! A gweddïwch na ddigwydd hyn yn y gaeaf, oblegid bydd y dyddiau hynny yn orthrymder na fu ei debyg o ddechrau'r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac na fydd byth. Ac oni bai fod yr Arglwydd wedi byrhau'r dyddiau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau.
Darllen Marc 13
Gwranda ar Marc 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 13:14-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos