Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 13:1-31

Marc 13:1-31 BCND

Wrth iddo fynd allan o'r deml, dyma un o'i ddisgyblion yn dweud wrtho, “Edrych, Athro, y fath feini enfawr a'r fath adeiladau gwych!” A dywedodd Iesu wrtho, “A weli di'r adeiladau mawr yma? Ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.” Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd gyferbyn â'r deml, gofynnodd Pedr ac Iago ac Ioan ac Andreas iddo, o'r neilltu, “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd pan fydd hyn oll ar ddod i ben?” A dechreuodd Iesu ddweud wrthynt, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo. Fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw’, ac fe dwyllant lawer. A phan glywch am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, peidiwch â chyffroi. Rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto. Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynfâu mewn mannau. Bydd adegau o newyn. Dechrau'r gwewyr fydd hyn. A chwithau, gwyliwch eich hunain; fe'ch traddodir chwi i lysoedd, a chewch eich fflangellu mewn synagogau a'ch gosod i sefyll gerbron llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth yn eu gŵydd. Ond yn gyntaf rhaid i'r Efengyl gael ei chyhoeddi i'r holl genhedloedd. A phan ânt â chwi i'ch traddodi, peidiwch â phryderu ymlaen llaw beth i'w ddweud, ond pa beth bynnag a roddir i chwi y pryd hwnnw, dywedwch hynny; oblegid nid chwi sydd yn llefaru, ond yr Ysbryd Glân. Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub. “Ond pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’ yn sefyll lle na ddylai fod” (dealled y darllenydd) “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Pwy bynnag sydd ar ben y tŷ, peidied â dod i lawr i fynd i mewn i gipio dim o'i dŷ; a phwy bynnag sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! A gweddïwch na ddigwydd hyn yn y gaeaf, oblegid bydd y dyddiau hynny yn orthrymder na fu ei debyg o ddechrau'r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac na fydd byth. Ac oni bai fod yr Arglwydd wedi byrhau'r dyddiau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau. Ac yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu, ‘Edrych, dacw ef’, peidiwch â'i gredu. Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau i arwain ar gyfeiliorn yr etholedigion, petai hynny'n bosibl. Ond gwyliwch chwi; yr wyf wedi dweud y cwbl wrthych ymlaen llaw. “Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y gorthrymder hwnnw, “ ‘Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch, syrth y sêr o'r nef, ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.’ “A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant. Ac yna'r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef. “Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd. Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.