Daethant drachefn i Jerwsalem. Ac wrth ei fod yn cerdded yn y deml, dyma'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid yn dod ato, ac meddent wrtho, “Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?” Dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ofynnaf un peth i chwi; atebwch fi, ac fe ddywedaf wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn. Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol? Atebwch fi.” Dechreusant ddadlau â'i gilydd a dweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam, ynteu, na chredasoch ef?’ Eithr a ddywedwn, ‘O'r byd daearol’?”—yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd mewn gwirionedd. Atebasant Iesu, “Ni wyddom ni ddim.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”
Darllen Marc 11
Gwranda ar Marc 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 11:27-33
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos