Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i'r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod, ac ni adawai i neb gludo dim trwy'r deml. A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, “Onid yw'n ysgrifenedig: “ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd, ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron’?” Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth.
Darllen Marc 11
Gwranda ar Marc 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 11:15-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos