Cychwynnodd oddi yno a daeth i diriogaeth Jwdea a'r tu hwnt i'r Iorddonen. Daeth tyrfaoedd ynghyd ato drachefn, a thrachefn yn ôl ei arfer dechreuodd eu dysgu. A daeth Phariseaid ato a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig; rhoi prawf arno yr oeddent. Atebodd yntau hwy gan ofyn, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?” Dywedasant hwythau, “Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr ysgar a'i hanfon ymaith.” Ond meddai Iesu wrthynt, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi. Ond o ddechreuad y greadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwy. Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd.
Darllen Marc 10
Gwranda ar Marc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 10:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos