ac yna bydd heddwch. Pan ddaw Asyria i'n gwlad, a cherdded hyd ein tir, codwn yn ei erbyn saith o fugeiliaid ac wyth o arweinwyr pobl. A bugeiliant Asyria â'r cleddyf, a thir Nimrod â'r cleddyf noeth; fe'n gwaredant oddi wrth Asyria pan ddaw i'n gwlad a sarnu'n terfynau. A bydd gweddill Jacob yng nghanol pobloedd lawer, fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, fel cawodydd ar laswellt, nad ydynt yn disgwyl wrth ddyn, nac yn aros am feibion dynion. A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd, ac yng nghanol pobloedd lawer, fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig, fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid, sydd, wrth fynd heibio, yn mathru ac yn malurio, heb neb i waredu. Bydd dy law wedi ei chodi yn erbyn dy wrthwynebwyr, a thorrir ymaith dy holl elynion. “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “distrywiaf dy feirch o'ch plith, a dinistriaf dy gerbydau. Distrywiaf ddinasoedd dy wlad, a mathraf dy holl geyrydd. Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael, ac ni fydd gennyt ddewiniaid. Distrywiaf dy gerfddelwau a'th golofnau o'ch mysg, a mwyach nid addoli waith dy ddwylo dy hun. Diwreiddiaf y prennau Asera yn eich plith, a dinistriaf dy ddinasoedd. Mewn llid a digofaint fe ddialaf ar yr holl genhedloedd na fuont yn ufudd.”
Darllen Micha 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Micha 5:5-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos