Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 9:1-38

Mathew 9:1-38 BCND

Aeth Iesu i mewn i gwch a chroesi'r môr a dod i'w dref ei hun. A dyma hwy'n dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Cod dy galon, fy mab; maddeuwyd dy bechodau.” A dyma rai o'r ysgrifenyddion yn dweud ynddynt eu hunain, “Y mae hwn yn cablu.” Deallodd Iesu eu meddyliau ac meddai, “Pam yr ydych yn meddwl pethau drwg yn eich calonnau? Oherwydd p'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’? Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear”—yna meddai wrth y claf, “Cod, a chymer dy wely a dos adref.” A chododd ac aeth ymaith i'w gartref. Pan welodd y tyrfaoedd hyn daeth ofn arnynt a rhoesant ogoniant i Dduw, yr hwn a roddodd y fath awdurdod i ddynion. Wrth fynd heibio oddi yno gwelodd Iesu ddyn a elwid Mathew yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef. Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, a dyma lawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn dod ac yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion. A phan welodd y Phariseaid, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae eich athro yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Clywodd Iesu, a dywedodd, “Nid ar y cryfion ond ar y cleifion y mae angen meddyg. Ond ewch a dysgwch beth yw ystyr hyn, ‘Trugaredd a ddymunaf, nid aberth’. Oherwydd i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.” Yna daeth disgyblion Ioan ato a dweud, “Pam yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio llawer, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?” Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas alaru cyhyd ag y mae'r priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant. Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; oherwydd fe dynn y clwt wrth y dilledyn, ac fe â'r rhwyg yn waeth. Ni fydd pobl chwaith yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwnânt, fe rwygir y crwyn, fe gollir y gwin a difethir y crwyn. Ond byddant yn tywallt gwin newydd i grwyn newydd, ac fe gedwir y ddau.” Tra oedd ef yn siarad fel hyn â hwy, dyma ryw lywodraethwr yn dod ato ac ymgrymu iddo a dweud, “Y mae fy merch newydd farw; ond tyrd a rho dy law arni, ac fe fydd fyw.” A chododd Iesu a dilynodd ef gyda'i ddisgyblion. A dyma wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd yn dod ato o'r tu ôl ac yn cyffwrdd ag ymyl ei fantell. Oherwydd yr oedd hi wedi dweud ynddi ei hun, “Dim ond imi gyffwrdd â'i fantell, fe gaf fy iacháu.” A throes Iesu, a gwelodd hi, ac meddai, “Cod dy galon, fy merch; y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” Ac iachawyd y wraig o'r munud hwnnw. Pan ddaeth Iesu i dŷ'r llywodraethwr, a gweld y pibyddion a'r dyrfa mewn cynnwrf, dywedodd, “Ewch ymaith, oherwydd nid yw'r eneth wedi marw; cysgu y mae.” Dechreusant chwerthin am ei ben. Ac wedi i'r dyrfa gael ei gyrru allan, aeth ef i mewn a gafael yn ei llaw, a chododd yr eneth. Ac aeth yr hanes am hyn allan i'r holl ardal honno. Wrth i Iesu fynd oddi yno dilynodd dau ddyn dall ef gan weiddi, “Trugarha wrthym ni, Fab Dafydd.” Wedi iddo ddod i'r tŷ daeth y deillion ato, a gofynnodd Iesu iddynt, “A ydych yn credu y gallaf wneud hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym, syr.” Yna cyffyrddodd â'u llygaid a dweud, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.” Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, “Gofalwch na chaiff neb wybod.” Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno. Fel yr oeddent yn mynd ymaith, dyma rywrai'n dwyn ato ddyn mud wedi ei feddiannu gan gythraul. Wedi i'r cythraul gael ei fwrw allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y tyrfaoedd gan ddweud, “Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel.” Ond dywedodd y Phariseaid, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.” Yr oedd Iesu'n mynd o amgylch yr holl drefi a'r pentrefi, dan ddysgu yn eu synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd. A phan welodd ef y tyrfaoedd tosturiodd wrthynt am eu bod yn flinderus a diymadferth fel defaid heb fugail. Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.”