Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 3:1-12

Mathew 3:1-12 BCND

Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu'r genadwri hon yn anialwch Jwdea: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.” Dyma'r hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia pan ddywedodd: “Llais un yn galw yn yr anialwch, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.’ ” Yr oedd dillad Ioan o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Yr oedd trigolion Jerwsalem a Jwdea i gyd, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. A phan welodd Ioan lawer o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i'w bedyddio ganddo, dywedodd wrthynt: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod? Dygwch ffrwyth gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. A pheidiwch â meddwl dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn. Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân. Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr i edifeirwch; ond y mae'r hwn sydd yn dod ar f'ôl i yn gryfach na mi, un nad wyf fi'n deilwng i gario'i sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân. Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, a bydd yn nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac yn casglu ei rawn i'r ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.”

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd