Pan ddaeth yn ddydd, cynllwyniodd yr holl brif offeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn Iesu i'w roi i farwolaeth. Rhwymasant ef a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat, y rhaglaw.
Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth â'r deg darn arian ar hugain yn ôl at y prif offeiriaid a'r henuriaid. Dywedodd, “Pechais trwy fradychu dyn dieuog.” “Beth yw hynny i ni?” meddent hwy. “Rhyngot ti a hynny.” A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun. Wedi iddynt dderbyn yr arian, dywedodd y prif offeiriaid, “Nid yw'n gyfreithlon ei roi yn nhrysorfa'r deml, gan mai pris gwaed ydyw.” Ac wedi ymgynghori, prynasant Faes y Crochenydd â'r arian, fel mynwent i ddieithriaid. Dyna pam y gelwir y maes hwnnw hyd heddiw yn Faes y Gwaed. Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: “Cymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y sawl y rhoddodd rhai o blant Israel bris arno, a'u gwario i brynu maes y crochenydd, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.”
Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ti sy'n dweud hynny.” A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim. Yna meddai Pilat wrtho, “Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?” Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw.
Ar yr ŵyl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy. A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas. Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, “Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?” Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef. A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, “Paid â chael dim i'w wneud â'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef.” Ond perswadiodd y prif offeiriaid a'r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth. Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, “P'run o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?” “Barabbas,” meddent hwy. “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.” “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelier ef.” Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, “Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol.” Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.” Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.
Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i'r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o'i gwmpas. Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano; plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio.
Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef. Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, “Lle Penglog”, ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu â bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed. Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren, ac eisteddasant yno i'w wylio. Uwch ei ben gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn mewn ysgrifen: “Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon.” Yna croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith. Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, yn ysgwyd eu pennau ac yn dweud, “Ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw wyt ti, a disgyn oddi ar y groes.” A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, yn ei watwar ac yn dweud, “Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. Brenin Israel yn wir! Disgynned yn awr oddi ar y groes ac fe gredwn ynddo. Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw â'i fryd arno, oherwydd dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf.’ ” Yr un modd, yr oedd hyd yn oed y lladron a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.
O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn. A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, “Y mae hwn yn galw ar Elias.” Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. Ond yr oedd y lleill yn dweud, “Gadewch inni weld a ddaw Elias i'w achub.” Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw. A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau; agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno. Ac ar ôl atgyfodiad Iesu, daethant allan o'u beddau a mynd i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac fe'u gwelwyd gan lawer. Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, “Yn wir, Mab Duw oedd hwn.” Yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, rhai oedd wedi canlyn Iesu o Galilea i weini arno; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, Mair mam Iago a Joseff, a mam meibion Sebedeus.