Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio camdystiolaeth yn erbyn Iesu, er mwyn ei roi i farwolaeth, ond ni chawsant ddim, er i lawer o dystion gau ddod ymlaen. Yn y diwedd daeth dau ymlaen a dweud, “Dywedodd hwn, ‘Gallaf fwrw i lawr deml Duw, ac ymhen tridiau ei hadeiladu.’ ” Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed a dweud wrtho, “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?” Parhaodd Iesu'n fud; a dywedodd yr archoffeiriad wrtho, “Yr wyf yn rhoi siars i ti dyngu yn enw'r Duw byw a dweud wrthym ai ti yw'r Meseia, Mab Duw.” Dywedodd Iesu wrtho, “Ti a ddywedodd hynny; ond rwy'n dweud wrthych: “ ‘O hyn allan fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef.’ ” Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd. Sut y barnwch chwi?” Atebasant, “Y mae'n haeddu marwolaeth.”
Darllen Mathew 26
Gwranda ar Mathew 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 26:59-66
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos