Aeth y rhai oedd wedi dal Iesu ag ef ymaith i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle'r oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi dod ynghyd. Canlynodd Pedr ef o hirbell hyd at gyntedd yr archoffeiriad, ac wedi mynd i mewn eisteddodd gyda'r gwasanaethwyr, i weld y diwedd. Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio camdystiolaeth yn erbyn Iesu, er mwyn ei roi i farwolaeth, ond ni chawsant ddim, er i lawer o dystion gau ddod ymlaen. Yn y diwedd daeth dau ymlaen a dweud, “Dywedodd hwn, ‘Gallaf fwrw i lawr deml Duw, ac ymhen tridiau ei hadeiladu.’ ” Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed a dweud wrtho, “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?” Parhaodd Iesu'n fud; a dywedodd yr archoffeiriad wrtho, “Yr wyf yn rhoi siars i ti dyngu yn enw'r Duw byw a dweud wrthym ai ti yw'r Meseia, Mab Duw.” Dywedodd Iesu wrtho, “Ti a ddywedodd hynny; ond rwy'n dweud wrthych: “ ‘O hyn allan fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef.’ ”
Darllen Mathew 26
Gwranda ar Mathew 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 26:57-64
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos