Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.’ “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.” Atebodd Pedr ef, “Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth.” Meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith.” “Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi,” meddai Pedr wrtho, “ni'th wadaf byth.” Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd.
Darllen Mathew 26
Gwranda ar Mathew 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 26:31-35
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos