“Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal. I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac fe aeth oddi cartref. Ar unwaith aeth yr un a dderbyniodd bum cod a masnachu â hwy, ac fe enillodd atynt bump arall. Felly hefyd enillodd yr un a gafodd ddwy god ddwy arall atynt. Ond y sawl a dderbyniodd un god, aeth ef ymaith a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr. Ymhen cryn dipyn o amser daeth meistr y gweision hynny yn ôl ac fe adolygodd eu cyfrifon hwy. Daeth yr un a dderbyniodd bum cod a chyflwyno iddo bump arall. ‘Meistr,’ meddai, ‘rhoddaist bum cod o arian yn fy ngofal; dyma bum cod arall a enillais i atynt.’ ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,’ meddai ei feistr wrtho, ‘buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’ Yna daeth yr un â'r ddwy god, a dywedodd, ‘Meistr, rhoddaist ddwy god o arian yn fy ngofal; dyma ddwy god arall a enillais i atynt.’ Meddai ei feistr wrtho, ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon; buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’
Darllen Mathew 25
Gwranda ar Mathew 25
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 25:14-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos