Yna llefarodd Iesu wrth y tyrfaoedd a'i ddisgyblion. Dywedodd: “Y mae'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn eistedd yng nghadair Moses. Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch â dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu. Y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau pobl, ond nid ydynt hwy eu hunain yn fodlon codi bys i'w symud. Cyflawnant eu holl weithredoedd er mwyn cael eu gweld gan eraill. Y maent yn gwneud eu phylacterau'n llydan ac ymylon eu mentyll yn llaes; y maent yn hoffi cael y seddau anrhydedd mewn gwleddoedd a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd a'u galw gan bobl yn ‘Rabbi’. Ond peidiwch chwi â chymryd eich galw yn ‘Rabbi’, oherwydd un athro sydd gennych, a chymrodyr ydych chwi i gyd. A pheidiwch â galw neb yn dad ichwi ar y ddaear, oherwydd un tad sydd gennych chwi, sef eich Tad nefol. A pheidiwch â chymryd eich galw'n arweinwyr chwaith, oherwydd un arweinydd sydd gennych, sef y Meseia. Rhaid i'r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi. Darostyngir pwy bynnag fydd yn ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pwy bynnag fydd yn ei ddarostwng ei hun.
Darllen Mathew 23
Gwranda ar Mathew 23
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 23:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos