Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, anfonodd Iesu ddau ddisgybl gan ddweud wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch â hwy ataf. Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr eu hangen’; a bydd yn eu rhoi ar unwaith.” Digwyddodd hyn fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd: “Dywedwch wrth ferch Seion, ‘Wele dy frenin yn dod atat, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.’ ” Aeth y disgyblion a gwneud fel y gorchmynnodd Iesu iddynt; daethant â'r asen a'r ebol ato, a rhoesant eu mentyll ar eu cefn, ac eisteddodd Iesu arnynt. Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd, ac yr oedd eraill yn torri canghennau o'r coed ac yn eu taenu ar y ffordd. Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi: “Hosanna i Fab Dafydd! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf!” Pan ddaeth ef i mewn i Jerwsalem cynhyrfwyd y ddinas drwyddi. Yr oedd pobl yn gofyn, “Pwy yw hwn?”, a'r tyrfaoedd yn ateb, “Y proffwyd Iesu yw hwn, o Nasareth yng Ngalilea.”
Darllen Mathew 21
Gwranda ar Mathew 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 21:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos