Yna, pan ddeallodd Herod iddo gael ei dwyllo gan y seryddion, aeth yn gynddeiriog, a rhoddodd orchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem a'r holl gyffiniau oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, gan gyfrif o'r amser yr holodd ef y seryddion. Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: “Clywyd llef yn Rama, wylofain a galaru dwys; Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy.” Ar ôl i Herod farw, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseff yn yr Aifft, ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a dos i wlad Israel, oherwydd bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn.” Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef, a mynd i wlad Israel. Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu dros Jwdea yn lle ei dad Herod, daeth ofn ar Joseff fynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd, ac ymadawodd i barthau Galilea, ac ymsefydlodd mewn tref a elwid Nasareth, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwydi: “Gelwir ef yn Nasaread.”
Darllen Mathew 2
Gwranda ar Mathew 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 2:16-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos