O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi. A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, “Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti.” Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, “Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.” Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff.
Darllen Mathew 16
Gwranda ar Mathew 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 16:21-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos