Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?” Dywedasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, Jeremeia neu un o'r proffwydi.” “A chwithau,” meddai wrthynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Simon Pedr, “Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw.” Dywedodd Iesu wrtho, “Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd. Ac rwyf fi'n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni.
Darllen Mathew 16
Gwranda ar Mathew 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 16:13-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos