Galwodd Iesu ei ddisgyblion ato, ac meddai, “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. Ac ni fynnaf eu hanfon ymaith ar eu cythlwng, rhag iddynt lewygu ar y ffordd.” Dywedodd y disgyblion wrtho, “O ble, mewn lle anial, y cawn ddigon o fara i fwydo tyrfa mor fawr?” Gofynnodd Iesu iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau, “ac ychydig bysgod bychain.” Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd. Bwytasant oll a chael digon, a chodasant lond saith cawell o'r tameidiau oedd dros ben.
Darllen Mathew 15
Gwranda ar Mathew 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 15:32-37
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos