Yna'n ddi-oed gwnaeth i'r disgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, tra byddai ef yn gollwng y tyrfaoedd. Wedi eu gollwng aeth i fyny'r mynydd o'r neilltu i weddïo, a phan aeth hi'n hwyr yr oedd yno ar ei ben ei hun. Yr oedd y cwch eisoes gryn bellter oddi wrth y tir, ac mewn helbul gan y tonnau, oherwydd yr oedd y gwynt yn ei erbyn. Rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y môr, dychrynwyd hwy nes dweud, “Drychiolaeth yw”, a gweiddi gan ofn. Ond ar unwaith siaradodd Iesu â hwy. “Codwch eich calon,” meddai, “myfi yw; peidiwch ag ofni.” Atebodd Pedr ef, “Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau.” Meddai Iesu, “Tyrd.” Disgynnodd Pedr o'r cwch a cherddodd ar y tonnau, a daeth at Iesu. Ond pan welodd rym y gwynt brawychodd, ac wrth ddechrau suddo gwaeddodd, “Arglwydd, achub fi.” Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud, “Ti o ychydig ffydd, pam y petrusaist?” Ac wedi iddynt ddringo i'r cwch, gostegodd y gwynt. Yna addolodd y rhai oedd yn y cwch ef, gan ddweud, “Yn wir, Mab Duw wyt ti.”
Wedi croesi'r môr daethant i dir yn Genesaret. Adnabu pobl y lle hwnnw ef, ac anfonasant i'r holl gymdogaeth honno, a daethant â'r cleifion i gyd ato, ac erfyn arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd ag ymyl ei fantell. A llwyr iachawyd pawb a gyffyrddodd ag ef.