Yna'n ddi-oed gwnaeth i'r disgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, tra byddai ef yn gollwng y tyrfaoedd. Wedi eu gollwng aeth i fyny'r mynydd o'r neilltu i weddïo, a phan aeth hi'n hwyr yr oedd yno ar ei ben ei hun. Yr oedd y cwch eisoes gryn bellter oddi wrth y tir, ac mewn helbul gan y tonnau, oherwydd yr oedd y gwynt yn ei erbyn. Rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y môr, dychrynwyd hwy nes dweud, “Drychiolaeth yw”, a gweiddi gan ofn. Ond ar unwaith siaradodd Iesu â hwy. “Codwch eich calon,” meddai, “myfi yw; peidiwch ag ofni.”
Darllen Mathew 14
Gwranda ar Mathew 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 14:22-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos