“Dyma fi yn eich anfon allan fel defaid i blith bleiddiaid; felly byddwch yn gall fel seirff ac yn ddiniwed fel colomennod. Gochelwch rhag pobl; oherwydd fe'ch traddodant chwi i lysoedd, ac fe'ch fflangellant yn eu synagogau. Cewch eich dwyn o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt ac i'r Cenhedloedd. Pan draddodant chwi, peidiwch â phryderu pa fodd na pha beth i lefaru, oherwydd fe roddir i chwi y pryd hwnnw eiriau i'w llefaru. Nid chwi sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad sy'n llefaru ynoch chwi. Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.
Darllen Mathew 10
Gwranda ar Mathew 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 10:16-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos