Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 1:1-18

Mathew 1:1-18 BCND

Dyma restr achau Iesu Grist, Mab Dafydd, mab Abraham. Yr oedd Abraham yn dad i Isaac, Isaac yn dad i Jacob, a Jacob yn dad i Jwda a'i frodyr. Yr oedd Jwda yn dad i Peres a Sera, a Tamar yn fam iddynt; yr oedd Peres yn dad i Hesron, Hesron i Ram, Ram i Amminadab, Amminadab i Nahson, Nahson i Salmon; yr oedd Salmon yn dad i Boas, a Rahab yn fam iddo, Boas yn dad i Obed, a Ruth yn fam iddo, Obed yn dad i Jesse, a Jesse yn dad i'r Brenin Dafydd. Yr oedd Dafydd yn dad i Solomon, a gwraig Ureia yn fam iddo, yr oedd Solomon yn dad i Rehoboam, Rehoboam yn dad i Abeia, ac Abeia'n dad i Asa. Yr oedd Asa'n dad i Jehosaffat, Jehosaffat i Joram, Joram i Usseia, Usseia i Jotham, Jotham i Ahas, Ahas i Heseceia, Heseceia i Manasse, Manasse i Amon, ac Amon i Joseia. Yr oedd Joseia yn dad i Jechoneia a'i frodyr yng nghyfnod y gaethglud i Fabilon. Ar ôl y gaethglud i Fabilon, yr oedd Jechoneia yn dad i Salathiel, Salathiel i Sorobabel, Sorobabel i Abiwd, Abiwd i Eliacim, Eliacim i Asor, Asor i Sadoc, Sadoc i Achim, Achim i Eliwd, Eliwd i Eleasar, Eleasar i Mathan, a Mathan i Jacob. Yr oedd Jacob yn dad i Joseff, gŵr Mair, a hi a roddodd enedigaeth i Iesu, a elwid y Meseia. Felly, pedair ar ddeg yw cyfanrif y cenedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, a phedair ar ddeg o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon, a phedair ar ddeg hefyd o'r gaethglud i Fabilon hyd y Meseia. Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi'n feichiog o'r Ysbryd Glân.