Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 8:25-35

Luc 8:25-35 BCND

Yna meddai ef wrthynt, “Ble mae eich ffydd?” Daeth ofn a syndod arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae'n gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a'r dyfroedd, a hwythau'n ufuddhau iddo.” Daethant i'r lan i wlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea. Pan laniodd ef, daeth i'w gyfarfod ddyn o'r dref â chythreuliaid ynddo. Ers amser maith nid oedd wedi gwisgo dilledyn, ac nid mewn tŷ yr oedd yn byw ond ymhlith y beddau. Pan welodd ef Iesu, rhoes floedd a syrthio o'i flaen, gan weiddi â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn erfyn arnat, paid â'm poenydio.” Oherwydd yr oedd ef wedi gorchymyn i'r ysbryd aflan fynd allan o'r dyn. Aml i dro yr oedd yr ysbryd wedi cydio ynddo, ac er ei rwymo â chadwynau a llyffetheiriau a'i warchod, byddai'n dryllio'r rhwymau, a'r cythraul yn ei yrru i'r unigeddau. Yna gofynnodd Iesu iddo, “Beth yw dy enw?” “Lleng,” meddai yntau, oherwydd yr oedd llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo. Dechreusant ymbil ar Iesu i beidio â gorchymyn iddynt fynd ymaith i'r dyfnder. Yr oedd yno genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd. Ymbiliodd y cythreuliaid arno i ganiatáu iddynt fynd i mewn i'r moch; ac fe ganiataodd iddynt. Aeth y cythreuliaid allan o'r dyn ac i mewn i'r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r llyn a boddi. Pan welodd bugeiliaid y moch beth oedd wedi digwydd fe ffoesant, gan adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad. Daeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu, a chael y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd wrth draed Iesu, â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Luc 8:25-35