Un o'r dyddiau hynny aeth allan i'r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw. Pan ddaeth hi'n ddydd galwodd ei ddisgyblion ato. Dewisodd o'u plith ddeuddeg, a rhoi'r enw apostolion iddynt: Simon, a enwodd hefyd yn Pedr; Andreas ei frawd; Iago, Ioan, Philip a Bartholomeus; Mathew, Thomas, Iago fab Alffeus, a Simon, a elwid y Selot; Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a droes yn fradwr.
Aeth i lawr gyda hwy a sefyll ar dir gwastad, gyda thyrfa fawr o'i ddisgyblion, a llu niferus o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac o arfordir Tyrus a Sidon, a oedd wedi dod i wrando arno ac i'w hiacháu o'u clefydau; yr oedd y rhai a flinid gan ysbrydion aflan hefyd yn cael eu gwella. Ac yr oedd yr holl dyrfa'n ceisio cyffwrdd ag ef, oherwydd yr oedd nerth yn mynd allan ohono ac yn iacháu pawb.
Yna cododd ef ei lygaid ar ei ddisgyblion a dweud:
“Gwyn eich byd chwi'r tlodion,
oherwydd eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.
Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog,
oherwydd cewch eich digoni.
Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo,
oherwydd cewch chwerthin.
“Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich casáu, yn eich ysgymuno a'ch gwaradwyddo, ac yn dirmygu eich enw fel peth drwg, o achos Mab y Dyn. Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r proffwydi.
“Ond gwae chwi'r cyfoethogion,
oherwydd yr ydych wedi cael eich diddanwch.
Gwae chwi sydd yn awr wedi eich llenwi,
oherwydd daw arnoch newyn.
Gwae chwi sydd yn awr yn chwerthin,
oherwydd cewch ofid a dagrau.
“Gwae chwi pan fydd pawb yn eich canmol, oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r gau broffwydi.
“Ond wrthych chwi sy'n gwrando rwy'n dweud: carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n eich casáu, bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio, gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin. Pan fydd rhywun yn dy daro di ar dy foch, cynigia'r llall iddo hefyd; pan fydd un yn cymryd dy fantell, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd. Rho i bawb sy'n gofyn gennyt, ac os bydd rhywun yn cymryd dy eiddo, paid â gofyn amdano'n ôl. Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy. Os ydych yn caru'r rhai sy'n eich caru chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru'r rhai sy'n eu caru hwy. Ac os gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n gwneud daioni i chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud cymaint â hynny. Os rhowch fenthyg i'r rhai yr ydych yn disgwyl derbyn ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid dim ond iddynt gael yr un faint yn ôl. Nage, carwch eich gelynion a gwnewch ddaioni a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl. Bydd eich gwobr yn fawr a byddwch yn blant y Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig wrth yr anniolchgar a'r drygionus. Byddwch yn drugarog fel y mae eich Tad yn drugarog.
“Peidiwch â barnu, ac ni chewch eich barnu. Peidiwch â chondemnio, ac ni chewch eich condemnio. Maddeuwch, ac fe faddeuir i chwi. Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.” Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: “A fedr y dall arwain y dall? Onid syrthio i bydew a wna'r ddau? Nid yw disgybl yn well na'i athro; ond wedi ei lwyr gymhwyso bydd pob un fel ei athro. Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Sut y gelli ddweud wrth dy gyfaill, ‘Gyfaill, gad imi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad di’, a thi dy hun heb weld y trawst sydd yn dy lygad di? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill.
“Oherwydd nid yw coeden dda yn dwyn ffrwyth gwael, ac nid yw coeden wael chwaith yn dwyn ffrwyth da. Wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod; nid oddi ar ddrain y mae casglu ffigys, ac nid oddi ar lwyni mieri y mae tynnu grawnwin. Y mae'r dyn da yn dwyn daioni o drysor daionus ei galon, a'r dyn drwg yn dwyn drygioni o'i ddrygioni; oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi ei galon y mae ei enau yn llefaru.
“Pam yr ydych yn galw ‘Arglwydd, Arglwydd’ arnaf, a heb wneud yr hyn yr wyf yn ei ofyn? Pob un sy'n dod ataf ac yn gwrando ar fy ngeiriau ac yn eu gwneud, dangosaf i chwi i bwy y mae'n debyg: y mae'n debyg i ddyn a adeiladodd dŷ a chloddio'n ddwfn a gosod sylfaen ar y graig; a phan ddaeth llifogydd, ffrwydrodd yr afon yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni allodd ei syflyd, gan iddo gael ei adeiladu yn gadarn. Ond y mae'r sawl sy'n clywed, ond heb wneud, yn debyg i rywun a adeiladodd dŷ ar bridd, heb sylfaen; ffrwydrodd yr afon yn ei erbyn a chwalodd y tŷ hwnnw ar unwaith, a dirfawr fu ei gwymp.”