Un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith oedd wedi dod o bob pentref yng Ngalilea ac o Jwdea ac o Jerwsalem; ac yr oedd nerth yr Arglwydd gydag ef i iacháu. A dyma wŷr yn cario ar wely ddyn wedi ei barlysu; ceisio yr oeddent ddod ag ef i mewn a'i osod o flaen Iesu. Wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn oherwydd y dyrfa, dringasant ar y to a'i ollwng drwy'r priddlechi, ynghyd â'i wely, i'r canol o flaen Iesu. Wrth weld eu ffydd hwy dywedodd ef, “Ddyn, y mae dy bechodau wedi eu maddau iti.” A dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid feddwl, “Pwy yw hwn sy'n llefaru cabledd? Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?” Ond synhwyrodd Iesu eu meddyliau, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn meddwl fel hyn ynoch eich hunain? P'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Y mae dy bechodau wedi eu maddau iti’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’? Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau”—meddai wrth y claf, “Dyma fi'n dweud wrthyt, cod a chymer dy wely a dos adref.” Ac ar unwaith cododd yntau yn eu gŵydd, cymryd y gwely y bu'n gorwedd arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw. Daeth syndod dros bawb a dechreusant ogoneddu Duw; llanwyd hwy ag ofn, ac meddent, “Yr ydym wedi gweld pethau anhygoel heddiw.”
Wedi hyn aeth allan ac edrychodd ar gasglwr trethi o'r enw Lefi, a oedd yn eistedd wrth y dollfa, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.” A chan adael popeth cododd yntau a'i ganlyn. Yna gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa niferus o gasglwyr trethi ac eraill yn cydfwyta gyda hwy. Yr oedd y Phariseaid a'u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, “Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Atebodd Iesu hwy, “Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
Ond meddent hwythau wrtho, “Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn aml ac yn adrodd eu gweddïau, a rhai'r Phariseaid yr un modd, ond bwyta ac yfed y mae dy ddisgyblion di.” Meddai Iesu wrthynt, “A allwch wneud i westeion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt; yna fe ymprydiant yn y dyddiau hynny.” Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: “Ni fydd neb yn rhwygo clwt allan o ddilledyn newydd a'i roi ar hen ddilledyn; os gwna, nid yn unig fe fydd yn rhwygo'r newydd, ond ni fydd y clwt o'r newydd yn gweddu i'r hen. Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, bydd y gwin newydd yn rhwygo'r crwyn, a heblaw colli'r gwin fe ddifethir y crwyn. I grwyn newydd y mae tywallt gwin newydd. Ac ni fydd neb sydd wedi yfed hen win yn dymuno gwin newydd; oherwydd y mae'n dweud, ‘Yr hen sydd dda.’ ”