Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod? Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn. Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.” Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, “Beth a wnawn ni felly?” Atebai yntau, “Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth.” Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, “Athro, beth a wnawn ni?” Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch â mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi.” Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Meddai wrthynt, “Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog.” Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia, dywedodd ef wrth bawb: “Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân. Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.” Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl.
Darllen Luc 3
Gwranda ar Luc 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 3:7-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos