Wrth iddynt ddweud hyn, ymddangosodd ef yn eu plith, ac meddai wrthynt, “Tangnefedd i chwi.” Yn eu dychryn a'u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd. Gofynnodd iddynt, “Pam yr ydych wedi cynhyrfu? Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau? Gwelwch fy nwylo a'm traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi.” Wrth ddweud hyn dangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed. A chan eu bod yn eu llawenydd yn dal i wrthod credu ac yn rhyfeddu, meddai wrthynt, “A oes gennych rywbeth i'w fwyta yma?” Rhoesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio. Cymerodd ef, a bwyta yn eu gŵydd. Dywedodd wrthynt, “Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau.” Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau. Meddai wrthynt, “Fel hyn y mae'n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd, a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. Chwi yw'r tystion i'r pethau hyn. Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.”
Darllen Luc 24
Gwranda ar Luc 24
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 24:36-49
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos