Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 23:26-49

Luc 23:26-49 BCND

Wedi mynd ag ef ymaith gafaelsant yn Simon, brodor o Cyrene, a oedd ar ei ffordd o'r wlad, a gosod y groes ar ei gefn, iddo ei chario y tu ôl i Iesu. Yr oedd tyrfa fawr o'r bobl yn ei ddilyn, ac yn eu plith wragedd yn galaru ac yn wylofain drosto. Troes Iesu atynt a dweud, “Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant. Oherwydd dyma ddyddiau yn dod pan fydd pobl yn dweud, ‘Gwyn eu byd y gwragedd diffrwyth a'r crothau nad esgorasant a'r bronnau na roesant sugn.’ Y pryd hwnnw bydd pobl yn dechrau “ ‘Dweud wrth y mynyddoedd, “Syrthiwch arnom”, ac wrth y bryniau, “Gorchuddiwch ni.” ’ “Oherwydd os gwneir hyn i'r pren glas, pa beth a ddigwydd i'r pren crin?” Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef. Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo. Ac meddai Iesu, “O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.” A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad. Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, “Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig.” Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo, a chan ddweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun.” Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.” Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.” Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd? I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.” Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas.” Atebodd yntau, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.” Erbyn hyn yr oedd hi tua hanner dydd. Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn, a'r haul wedi diffodd. Rhwygwyd llen y deml yn ei chanol. Llefodd Iesu â llef uchel, “O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd.” A chan ddweud hyn bu farw. Pan welodd y canwriad yr hyn oedd wedi digwydd, dechreuodd ogoneddu Duw gan ddweud, “Yn wir, dyn cyfiawn oedd hwn.” Ac wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd, troes yr holl dyrfaoedd, a oedd wedi ymgynnull i wylio'r olygfa, tuag adref gan guro eu bronnau. Yr oedd ei holl gyfeillion, ynghyd â'r gwragedd oedd wedi ei ddilyn ef o Galilea, yn sefyll yn y pellter ac yn gweld y pethau hyn.