Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 22:7-20

Luc 22:7-20 BCND

Daeth dydd gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid lladd oen y Pasg. Anfonodd ef Pedr ac Ioan gan ddweud, “Ewch a pharatowch inni gael bwyta gwledd y Pasg.” Meddent hwy wrtho, “Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?” Atebodd hwy, “Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo, a dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae'r Athro yn gofyn i ti, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’ Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.” Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg. Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef. Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef! Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytâf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw.” Derbyniodd gwpan, ac wedi diolch meddai, “Cymerwch hwn a rhannwch ef ymhlith eich gilydd. Oherwydd rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd nes y daw teyrnas Dduw.” Cymerodd fara, ac wedi diolch fe'i torrodd a'i roi iddynt gan ddweud, “Hwn yw fy nghorff, sy'n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.” Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar ôl swper gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Luc 22:7-20