Yr oedd gŵyl y Bara Croyw, y Pasg fel y'i gelwir, yn agosáu. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ladd, oherwydd yr oedd arnynt ofn y bobl. Ac aeth Satan i mewn i Jwdas, a elwid Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg. Aeth ef a thrafod gyda'r prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml sut i fradychu Iesu iddynt. Cytunasant yn llawen iawn i dalu arian iddo. Cydsyniodd yntau, a dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef iddynt heb i'r dyrfa wybod. Daeth dydd gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid lladd oen y Pasg. Anfonodd ef Pedr ac Ioan gan ddweud, “Ewch a pharatowch inni gael bwyta gwledd y Pasg.” Meddent hwy wrtho, “Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?” Atebodd hwy, “Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo, a dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae'r Athro yn gofyn i ti, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’ Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.” Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.
Darllen Luc 22
Gwranda ar Luc 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 22:1-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos