Wedi dweud hyn aeth rhagddo ar ei ffordd i fyny i Jerwsalem, gan gerdded ar y blaen. Pan gyrhaeddodd yn agos i Bethffage a Bethania, ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion gan ddweud, “Ewch i'r pentref gyferbyn. Wrth ichwi ddod i mewn iddo cewch yno ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. Ac os bydd rhywun yn gofyn i chwi, ‘Pam yr ydych yn ei ollwng?’, dywedwch fel hyn: ‘Y mae ar y Meistr ei angen.’ ” Aeth y rhai a anfonwyd, a chael yr ebol, fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt. Pan oeddent yn gollwng yr ebol, meddai ei berchenogion wrthynt, “Pam yr ydych yn gollwng yr ebol?” Atebasant hwythau, “Y mae ar y Meistr ei angen,” a daethant ag ef at Iesu. Yna taflasant eu mentyll ar yr ebol, a gosod Iesu ar ei gefn. Wrth iddo fynd yn ei flaen, yr oedd pobl yn taenu eu mentyll ar y ffordd.
Pan oedd yn nesáu at y ffordd sy'n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd holl dyrfa ei ddisgyblion yn eu llawenydd foli Duw â llais uchel am yr holl wyrthiau yr oeddent wedi eu gweld, gan ddweud:
“Bendigedig yw'r un sy'n dod
yn frenin yn enw'r Arglwydd;
yn y nef, tangnefedd,
a gogoniant yn y goruchaf.”
Ac meddai rhai o'r Phariseaid wrtho o'r dyrfa, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.” Atebodd yntau, “Rwy'n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.”
Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti gan ddweud, “Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd—ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid. Oherwydd daw arnat ddyddiau pan fydd dy elynion yn codi clawdd yn dy erbyn, ac yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat o bob tu. Fe'th ddymchwelant hyd dy seiliau, ti a'th blant o'th fewn; ni adawant faen ar faen ynot ti, oherwydd dy fod heb adnabod yr amser pan ymwelwyd â thi.”