Meddai gan hynny, “Aeth dyn o uchel dras i wlad bell i gael ei wneud yn frenin, ac yna dychwelyd i'w deyrnas. Galwodd ato ddeg o'i weision a rhoi darn aur bob un iddynt, gan ddweud wrthynt, ‘Ewch i fasnachu nes imi ddychwelyd.’ Ond yr oedd ei ddeiliaid yn ei gasáu, ac anfonasant lysgenhadon ar ei ôl i ddatgan: ‘Ni fynnwn hwn yn frenin arnom.’ Ond dychwelodd ef wedi ei wneud yn frenin, a gorchmynnodd alw ato y gweision hynny yr oedd wedi rhoi'r arian iddynt, i gael gwybod pa lwyddiant yr oeddent wedi ei gael. Daeth y cyntaf ato gan ddweud, ‘Meistr, y mae dy ddarn aur wedi ennill ato ddeg darn arall.’ ‘Ardderchog, fy ngwas da,’ meddai yntau wrtho. ‘Am iti fod yn ffyddlon yn y pethau lleiaf, yr wyf yn dy benodi yn llywodraethwr ar ddeg tref.’ Daeth yr ail gan ddweud, ‘Y mae dy ddarn aur, Meistr, wedi gwneud pum darn.’ ‘Tithau hefyd,’ meddai wrth hwn yn ei dro, ‘bydd yn bennaeth ar bum tref.’ Yna daeth y trydydd gan ddweud, ‘Meistr, dyma dy ddarn aur. Fe'i cedwais yn ddiogel mewn cadach. Yr oedd arnaf dy ofn di. Yr wyt yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.’ ‘Â'th eiriau dy hun,’ atebodd ef, ‘y'th gondemniaf, y gwas drwg. Yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill. Pam felly na roddaist fy arian mewn banc? Buasai wedi ennill llog erbyn imi ddod i'w godi.’ Yna meddai wrth y rhai oedd yno, ‘Cymerwch y darn aur oddi arno a rhowch ef i'r un a chanddo ddeg darn.’ ‘Meistr,’ meddent hwy wrtho, ‘y mae ganddo ddeg darn yn barod.’ Rwy'n dweud wrthych, i bawb y mae ganddynt y rhoddir, ond oddi ar y rhai nad oes ganddynt fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddynt.