Yr oedd wedi dod i mewn i Jericho, ac yn mynd trwy'r dref. Dyma ddyn o'r enw Sacheus, un oedd yn brif gasglwr trethi ac yn ŵr cyfoethog, yn ceisio gweld p'run oedd Iesu; ond yr oedd yno ormod o dyrfa, ac yntau'n ddyn byr. Rhedodd ymlaen a dringo sycamorwydden er mwyn gweld Iesu, oherwydd yr oedd ar fynd heibio y ffordd honno. Pan ddaeth Iesu at y fan, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr ar dy union; y mae'n rhaid imi aros yn dy dŷ di heddiw.” Daeth ef i lawr ar ei union a'i groesawu yn llawen.
Darllen Luc 19
Gwranda ar Luc 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 19:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos