Gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” Dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw. Gwyddost y gorchmynion: ‘Na odineba, na ladd, na ladrata, na chamdystiolaetha, anrhydedda dy dad a'th fam.’ ” Meddai yntau, “Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid.” Pan glywodd Iesu hyn, dywedodd wrtho, “Un peth sydd ar ôl i ti ei wneud: gwerth y cwbl sydd gennyt, a rhanna ef ymhlith y tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.” Ond pan glywodd ef hyn, aeth yn drist iawn, oherwydd yr oedd yn gyfoethog dros ben. Pan welodd Iesu ef wedi tristáu, meddai, “Mor anodd yw hi i'r rhai goludog fynd i mewn i deyrnas Dduw! Oherwydd y mae'n haws i gamel fynd i mewn trwy grau nodwydd nag i'r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
Darllen Luc 18
Gwranda ar Luc 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 18:18-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos