Bu farw'r dyn tlawd, a dygwyd ef ymaith gan yr angylion i wledda wrth ochr Abraham. Bu farw'r dyn cyfoethog yntau, a chladdwyd ef. Yn Hades, ac yntau mewn poen arteithiol, cododd ei lygaid a gweld Abraham o bell, a Lasarus wrth ei ochr. A galwodd, ‘Abraham, fy nhad, trugarha wrthyf; anfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr ac i oeri fy nhafod, oherwydd yr wyf mewn ingoedd yn y tân hwn.’ ‘Fy mhlentyn,’ meddai Abraham, ‘cofia iti dderbyn dy wynfyd yn ystod dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; yn awr y mae ef yma yn cael ei ddiddanu, a thithau yn dioddef mewn ingoedd.
Darllen Luc 16
Gwranda ar Luc 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 16:22-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos