Wrth i'r tyrfaoedd gynyddu, dechreuodd lefaru: “Y mae'r genhedlaeth hon yn genhedlaeth ddrygionus; y mae'n ceisio arwydd. Eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona. Oherwydd fel y bu Jona yn arwydd i bobl Ninefe, felly y bydd Mab y Dyn yntau i'r genhedlaeth hon. Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda phobl y genhedlaeth hon, ac yn eu condemnio hwy; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon. Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon, ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona.
Darllen Luc 11
Gwranda ar Luc 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 11:29-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos