“Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid; cododd waredigaeth gadarn i ni yn nhŷ Dafydd ei was— fel y llefarodd trwy enau ei broffwydi sanctaidd yn yr oesoedd a fu— gwaredigaeth rhag ein gelynion ac o afael pawb sydd yn ein casáu; fel hyn y cymerodd drugaredd ar ein hynafiaid, a chofio ei gyfamod sanctaidd, y llw a dyngodd wrth Abraham ein tad, y rhoddai inni gael ein hachub o afael gelynion, a'i addoli yn ddiofn mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd. A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf, oherwydd byddi'n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau, i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaeth trwy faddeuant eu pechodau. Hyn yw trugaredd calon ein Duw— fe ddaw â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith, i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau, a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.”
Darllen Luc 1
Gwranda ar Luc 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 1:68-79
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos