A dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo, yn sefyll ar yr ochr dde i allor yr arogldarth; a phan welodd Sachareias ef, fe'i cythryblwyd a daeth ofn arno. Ond dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sachareias, oherwydd y mae dy ddeisyfiad wedi ei wrando; bydd dy wraig Elisabeth yn esgor ar fab i ti, a gelwi ef Ioan. Fe gei lawenydd a gorfoledd, a bydd llawer yn llawenychu o achos ei enedigaeth ef; oherwydd mawr fydd ef gerbron yr Arglwydd, ac nid yf win na diod gadarn byth; llenwir ef â'r Ysbryd Glân, ie, yng nghroth ei fam, ac fe dry lawer o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. Bydd yn cerdded o flaen yr Arglwydd yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau rhieni at eu plant, ac i droi'r anufudd i feddylfryd y cyfiawn, er mwyn darparu i'r Arglwydd bobl wedi eu paratoi.”
Darllen Luc 1
Gwranda ar Luc 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 1:11-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos