“ ‘Os na fyddwch ar ôl hyn i gyd yn derbyn disgyblaeth, ond yn parhau i'm gwrthwynebu, byddaf finnau yn eich gwrthwynebu chwithau, a byddaf fi fy hun yn eich taro seithwaith am eich pechodau. Byddaf yn dod â'r cleddyf yn eich erbyn i ddial am dorri'r cyfamod, a byddwch yn ymgasglu i'ch dinasoedd; yna fe anfonaf bla i'ch mysg, a'ch rhoi yn llaw'r gelyn. Pan dorraf eich cynhaliaeth o fara, bydd deg gwraig yn medru pobi eich bara mewn un ffwrn, a byddant yn rhannu'r bara wrth bwysau; cewch fwyta, ond ni'ch digonir. “ ‘Os byddwch er gwaethaf hyn heb wrando arnaf, ond yn parhau i'm gwrthwynebu, yna fe'ch gwrthwynebaf chwi yn fy nig, a byddaf fi fy hunan yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau. Byddwch yn bwyta cnawd eich meibion a'ch merched. Byddaf yn dinistrio eich uchelfeydd, yn torri i lawr eich allorau arogldarthu, ac yn pentyrru eich cyrff ar weddillion eich eilunod, a byddaf yn eich ffieiddio. Gwnaf eich dinasoedd yn adfeilion, dinistriaf eich cysegrleoedd, ac nid aroglaf eich arogl peraidd. Byddaf yn gwneud y tir yn ddiffaith, a bydd eich gelynion sy'n byw yno wedi eu syfrdanu. Fe'ch gwasgaraf ymysg y cenhedloedd, a byddaf yn dinoethi fy nghleddyf i'ch ymlid; bydd eich tir yn ddiffaith a'ch dinasoedd yn adfeilion.
Darllen Lefiticus 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Lefiticus 26:23-33
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos