Lefiticus 21
21
Deddfau'r Offeiriaid
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, ‘Nid yw offeiriad i'w halogi ei hun am farw yr un o'i dylwyth, 2ac eithrio ei deulu agosaf, megis ei fam, ei dad, ei fab, ei ferch, ei frawd, 3neu ei chwaer ddibriod, sy'n agos ato am nad oes ganddi ŵr. 4Fel pennaeth ymysg ei dylwyth nid yw i'w halogi ei hun na'i wneud ei hun yn aflan.
5“ ‘Nid yw offeiriaid i eillio'r pen yn foel nac i dorri ymylon y farf nac i wneud toriadau ar y cnawd. 6Byddant yn sanctaidd i'w Duw, ac nid ydynt i halogi ei enw; am eu bod yn cyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, sef bwyd eu Duw, fe fyddant yn sanctaidd. 7Nid ydynt i briodi putain, nac un wedi colli ei gwyryfdod, na gwraig wedi ei hysgaru oddi wrth ei gŵr; oherwydd y maent yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. 8Yr wyt i'w hystyried yn sanctaidd, oherwydd eu bod yn cyflwyno bwyd dy Dduw; byddant yn sanctaidd i ti, oherwydd sanctaidd ydwyf fi, yr ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio. 9Os bydd merch i offeiriad yn ei halogi ei hun trwy fynd yn butain, y mae'n halogi ei thad; rhaid ei llosgi yn y tân.
10“ ‘Am yr archoffeiriad, yr un o blith ei frodyr y tywalltwyd olew'r eneinio ar ei ben ac a ordeiniwyd i wisgo'r dillad, nid yw ef i noethi ei ben na rhwygo'i ddillad. 11Nid yw i fynd i mewn at gorff marw, na'i halogi ei hun hyd yn oed er mwyn ei dad na'i fam. 12Nid yw i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo halogi cysegr ei Dduw, oherwydd fe'i cysegrwyd ag olew eneinio ei Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD. 13Y mae i briodi gwyryf yn wraig. 14Nid yw i gymryd gweddw, un wedi ei hysgaru, nac un wedi ei halogi trwy buteindra, ond y mae i gymryd yn wraig wyryf o blith ei dylwyth, 15rhag iddo halogi ei had ymysg ei bobl. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n ei sancteiddio.’ ”
16Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 17“Dywed wrth Aaron, ‘Dros y cenedlaethau i ddod nid oes yr un o'th ddisgynyddion sydd â nam arno i ddod a chyflwyno bwyd ei Dduw. 18Nid oes neb ag unrhyw nam arno i ddynesu, boed yn ddall, yn gloff, wedi ei anffurfio neu ei hagru, 19yn ddyn gydag anaf ar ei droed neu ei law, 20yn wargam neu'n gorrach, gyda nam ar ei lygad, crach, doluriau neu geilliau briwedig. 21Nid yw'r un o ddisgynyddion Aaron yr offeiriad sydd â nam arno i ddynesu i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; am fod nam arno, nid yw i ddynesu i gyflwyno bwyd ei Dduw. 22Caiff fwyta bwyd ei Dduw o'r offrymau sanctaidd a'r offrymau sancteiddiaf, 23ond oherwydd bod nam arno ni chaiff fynd at y llen na dynesu at yr allor, rhag iddo halogi fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.’ ” 24Fel hyn y dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion ac wrth holl bobl Israel.
Dewis Presennol:
Lefiticus 21: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004