Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni;
edrych a gwêl ein gwarth.
Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid,
a'n tai i ddieithriaid.
Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau,
a'n mamau fel gweddwon.
Y mae'n rhaid inni dalu am y dŵr a yfwn,
a phrynu'r coed a gawn.
Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir;
yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys.
Gwnaethom gytundeb â'r Aifft,
ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd.
Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach;
ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau.
Caethweision sy'n llywodraethu arnom,
ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael.
Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd,
oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.
Y mae ein croen wedi duo fel ffwrn
oherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.
Treisir gwragedd yn Seion,
a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.
Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo,
ac ni pherchir yr henuriaid.
Y mae'r dynion ifainc yn llafurio â'r maen melin,
a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.
Gadawodd yr henuriaid y porth,
a'r gwŷr ifainc eu cerddoriaeth.
Diflannodd llawenydd o'n calonnau,
a throdd ein dawnsio yn alar.
Syrthiodd y goron oddi ar ein pen;
gwae ni, oherwydd pechasom.
Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol,
ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid:
am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch,
a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth.
Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,
ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth.
Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd,
ac wedi'n gwrthod am amser mor faith?
ARGLWYDD, tyn ni'n ôl atat, ac fe ddychwelwn;
adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu,
os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr,
ac yn ddig iawn wrthym.