Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos, ac yn gwaredu fy mywyd. Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd â mi, a dyfernaist o'm plaid. Gwelaist eu holl ddial, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn. Clywaist, O ARGLWYDD, eu dirmyg, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn— geiriau a sibrydion fy ngwrthwynebwyr yn f'erbyn bob dydd. Edrych arnynt—yn eistedd neu'n sefyll, fi yw testun eu gwawd. O ARGLWYDD, tâl iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo. Rho iddynt ofid calon, a bydded dy felltith arnynt. O ARGLWYDD, erlid hwy yn dy lid, a dinistria hwy oddi tan y nefoedd.
Darllen Galarnad 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Galarnad 3:58-66
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos